{kowydd i yru y keiliog koyd yn llattai at i gariad}
1 Cyd ac ieir y cai dy garu
2 y ceiliog dewr ar clog du
3 cwrelael yn caroli
4 cyfliw i bais cwfl ybi
7 castellwr diddanwr dyn
8 casulwydr edn ceseilwyn
5 cydwr vry coed ieir y vron
6 cwbl i amod cyw blwmon
9 ysguttull yn cynull cad
10 esgud wybr ysgod Abad
11 ysgwl du ar vlaen ysgol dar
12 esgoblvn mewn ysgablar
13 delw eglwyswr dail gleision
14 dilwfr brawd bregethwr bron
15 dy lifrai or mwtlai main
16 dwy lawes deg o Liain
17 [385] dwbled yt o blu y don
18 dwyael dy ventyll duon
19 crefyddwisg yt a wisgwyd
20 crefydd serch crefyddus wyd
21 ni mynni benn ymwanwr
22 bwyd y dydd ond bedw a dwr
23 byw o vrig coed bedw y vron
24 bwyd ieir vydd bedw irion
25 dy waith yw dwywaith bob dydd
26 er i mwyn ieir y mynydd
27 yn ael coed cynnal cadoedd
28 a rhif gwyr tra rhyvig oedd
29 gwyddost gyfran ar lannerch
30 oll geinciau mesurau serch
31 beiddiwr aer bydd yr owron
32 latai ym am ddeuliw ton
33 cyfeiria acw y voru
34 y dwyrain dan dorvn du
35 oni ddelych i ddolydd
36 dyfryn gwaisg addwyn a gwydd
37 a phrif avon fyrf ovwy
38 a ran y ddol wair yn ddwy
39 a dail yn lled deilio'n llawn
40 ag adar gogyfoed wn
41 discin edn dos gennad[ ]
42 i lynn dail o lann y [ ]
43 gwyl o'r coed gwilia wr c[ ]
44 hael dewr am haul y dwyrain
45 degle'n nes dwg iliw nyf
46 ddeg annerch o ddigennyf
47 dan arwydd ddoe dawn ir ddyn
48 erchi ym ai orchymyn
49 doe n llan i charu dan llaw
50 ac o beth i gobeithiaw
51 dywaid i wen liw splenydd
52 deled i oed deuliw dydd
53 os daw hon nos da i hwyneb
54 i vynydd ni wybydd neb
Dauid ap Gwilim